Gyda Siân Melangell Dafydd
Date: Dydd Sul Gorffennaf 31ain
Time: 12:00
Venue: ystafell gweithdy
Price: £15.00 / £10.00
Mwy nag ysgrifennu: Gweithdy Barddoniaeth a Meddwlgarwch gyda Siân Melangell Dafydd.
Gweithdy i ddarllen barddoniaeth fel rhan o ymarfer myfyriol, i ddysgu ymarferion syml meddwlgarwch yn ogystal ag ystyried y cwestiwn bach (a mawr) ‘pam’ fod gwneud hynny yn fuddiol fel rhan o’r broses o greu.
Gall hyd yn oed pum munud bach o ymarfer wneud i’r byd a’i bethau diddorol ymddangos yn gliriach i lygaid y bardd a’r sgwennwr. Mae’n gyfle i ail-gyfarwyddo eich hunain a’ch pensel neu feiro, i weld bywyd ei hun yn gliriach. Dyma’r gwaith o wreiddio neu osod sylfeini cyn ysgrifennu, hynny yw, y peth mae llawer ohonnom yn ei hepgor wrth frysio i lenwi tudalen! Ond eto mae rhywbeth gwahanol yn digwydd i’n sylwgarwch, syniadau, eglurder ac iaith wrth roi amser i ni’n hunain.
Byddwn yn rhoi cyfle i syniadaeth ac ymarfer meddwlgarwch siapio ein hysgrifennu ond hefyd i ddau ymarfer uno.
Mae croeso i chi ysgrifennu mewn unrhyw iaith ond yn Gymraeg fydd y gweithdy yn cael ei gynnal. Bydd angen gallu darllen a gwrando yn Gymraeg.

Magwyd Siân Melangell Dafydd ar droed y Berwyn, lle mae wedi dychwelyd er iddi fyw a gweithio yn yr Eidal mewn orielau, ac yn Ffrainc ym Mhrifysgol America, Paris. Siân yw awdur Y Trydydd Peth (Gwasg Gomer, 2009), enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod 2009 a chyd-olygydd olaf y cylchgrawn llenyddol eiconig, Taliesin. Mae’n gweithio’n ddiwyd â beirdd o’r India ac ar ymchwil doethuriaeth yn defnyddio yoga ac ysgrifennu fel ymarferion cyfochrog creadigol. Cyhoeddwyd ei nofel diweddaraf, Filò (Gwasg Gomer) yn 2019.
Siân Melangell Dafydd was brought up at the foot of the Berwyn, where she has now returned to following periods living and working in Italy in galleries, and in France at America University in Paris. Her novel Y Trydydd Peth won the Prose Medal at the National Eisteddfod in 2009 and Siân was the last co-editor of the iconic literary magazine, Taliesin. She works diligently with poets from India and on doctoral research using yoga and writing as creative parallel exercises. Her latest novel Filò (Gwasg Gomer), was published in 2019.

