Gyda Siân Melangell Dafydd
Date: Dydd Sul Gorffennaf 31ain
Time: 10:00
Venue: Theatr
Price: £15.00 / £10.00
Yoga ar y mat ac i ffwrdd o’r mat. Dewch a papur a phensel.
Gweithdy: Vac
Vac (yn Sansgrid) yw pŵer dirgrynol popeth sy’n bodoli, gan gynnwys felly dirgryniad a chread llais creadigol. Dewch i brofi dilyniant o symudiadau, mantra, stori a myfyrdod i’ch arwain at lais creadigol personol ar gyfer y diwrnod o farddoni ac o farddoniaeth i ddod.
Mae gwaith Siân yn amlygu cysylltiadau’r corff a’i synhwyrau gyda’r corff egnïol, yn ogystal â rhwng anadl a llais creadigol fel ein bod ni’n canfod ein mynegiant llawn ym mhob agwedd o fywyd, yn arbennig wrth wynebu ymarfer creadigol.
Ar gyfer pobl sydd yn gymharol iach a di-anaf, neu rai eisoes ag ymarfer yoga ac eisiau datblygu eu hymarfer mewn ffordd newydd.

Magwyd Siân Melangell Dafydd ar droed y Berwyn, lle mae wedi dychwelyd er iddi fyw a gweithio yn yr Eidal mewn orielau, ac yn Ffrainc ym Mhrifysgol America, Paris. Siân yw awdur Y Trydydd Peth (Gwasg Gomer, 2009), enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod 2009 a chyd-olygydd olaf y cylchgrawn llenyddol eiconig, Taliesin. Mae’n gweithio’n ddiwyd â beirdd o’r India ac ar ymchwil doethuriaeth yn defnyddio yoga ac ysgrifennu fel ymarferion cyfochrog creadigol. Cyhoeddwyd ei nofel diweddaraf, Filò (Gwasg Gomer) yn 2019.
Siân Melangell Dafydd was brought up at the foot of the Berwyn, where she has now returned to following periods living and working in Italy in galleries, and in France at America University in Paris. Her novel Y Trydydd Peth won the Prose Medal at the National Eisteddfod in 2009 and Siân was the last co-editor of the iconic literary magazine, Taliesin. She works diligently with poets from India and on doctoral research using yoga and writing as creative parallel exercises. Her latest novel Filò (Gwasg Gomer), was published in 2019.

