Panel Barddoniaeth & Noddfa (Dwyieithog)/ Poetry & Sanctuary Panel (Bilingual)

Gwyneth Lewis, Reverend Aled Edwards, Dylan moore & Joseff Gnagbo.

Y cadeirydd yw / Chaired by Angela Graham

Date: Dydd Sul Gorffennaf 31 ain / Sunday 31st July
Time: 11:15
Venue: Theatr / Theatre
Price: £5.00 / £3.00

This event will include BSL interpretation and simultaneous translation into English via headsets.

Noddfa − a sut mae byw ynddi? 

Beth sy’n codi yn ein dychymyg? Y sanctaidd neu’r digymorth; y blaned yr ydym yn byw arni gyda’n gilydd neu’r rhan ddadleuol ohoni sef nod mudwyr anobeithiol? Ai lle, unigolyn neu ffordd o feddwl yw noddfa? Heb os nac oni bai, noddfa yw prif broblem ein cyfnod ac yn bwnc llosg mewn gwleidyddiaeth. Dyma’r ysgrifenwyr hyn o Gymru yn mynd ati gyda’i gilydd i greu cam newydd yn ein hymgysylltiad barddonol â’r testun noddfa.

Cadeirydd y digwyddiad fydd Angela Graham, y mae ei chyfrol ar y cyd Sanctuary: There Must Be Somewhere, a gyhoeddwyd gan Seren, yn ymgorffori’r cysyniad o le croesawgar yn gysylltiedig â noddfa: yn ogystal â’i gwaith ei hun, mae wedi gwahodd pum bardd i weithio gyda hi i greu cerdd yn seiliedig ar y testun noddfa. A’r rheini o Hwngari, Iran, yr Eidal, Gogledd Iwerddon a Chymru, mae’r beirdd hyn yn mynegi profiad personol o geisio noddfa, o bryderon amgylcheddol, o geisio ac ail-gyflwyno dychymyg yr Arall.

Yn ymuno â hi fydd y bardd a Chyn-fardd Cenedlaethol Cymru, Gwyneth Lewis, y mae ei phrosiectau presennol yn canolbwyntio ar anabledd yng ngoleuni ei phrofiadau yn dioddef o byliau difrifol o’r meigryn. Beth all noddfa olygu yn y cyd-destun hwn? Bydd Dylan Moore hefyd yn cyfrannu, ac mae ei nofel Many Rivers To Cross (Three Impostors) yn sôn am fywydau mudwyr a Chymry brodorol sy’n ymwneud â nhw. Mae Dylan yn wybodus iawn ynghylch y feirniadaeth am ddarpariaeth bresennol i fudwyr yng Nghymru. Y Parchedig Aled Edwards yw un o ddechreuwyr y mudiad Cenedl Noddfa a Dinasoedd Noddfa. Mae Joseff  Gnagbo yn dod o orllewin Affrica yn wreiddiol. Tiwtor Cymraeg dan hyfforddiant yw e. Mae noddfa yn ymwneud â mudo a mwy. Mae’n procio craidd y cwestiwn hwn: beth yw bod yn fod dynol?

What is sanctuary – and how to live It?

What rises in our imagination? The holy or the helpless; the planet we live on together or the contested part of it that is the goal of desperate migrants? Is sanctuary a place, a person or a state of mind? Sanctuary is incontestably a key issue of our time and a major driver of politics. These Welsh writers create together a new stage in our poetic engagement with sanctuary. 

The event will be chaired by Angela Graham, whose collaborative volume Sanctuary: There Must Be Somewhere, out from Seren Books, embodies the sanctuary concept of a hosting space: in addition to her own work, she invited five poets to work with her to create a poem each on the subject of sanctuary. From Hungary, Iran, Italy, Northern Ireland and Wales, these poets express personal experience of seeking sanctuary, of environmental concerns, of entering and re-presenting the imagination of the Other. 

Joining her will be the poet and past National Poet of Wales, Gwyneth Lewis, whose current projects are focussed on disability in the light of her experiences with disabling migraines. What might sanctuary mean in this context? Another contributor will be Dylan Moore whose novel, Many Rivers To Cross (Three Impostors) details the lives of both migrants and the native Welsh who engage with them. Dylan is well-informed about criticism of current provision for migrants in Wales. Reverend Aled Edwards is one of the originators of the Nation of Sanctuary and Cities of Sanctuary movement. Joseff Gnagbo is a trainee teacher of Welsh, originally from west Africa. Sanctuary is about migration and more. It gets to the heart of this question: what does it mean to be human?

Authors

Daw Angela Graham o Belfast, ond mae wedi gweithio yn gwneud ffilmiau a sgriptio ffilmiau yng Nghymru. Dechreuodd Angela ysgrifennu yn llawn amser rai blynyddoedd yn ôl ac mae bellach yn rhannu ei hamser rhwng Cymru a Gogledd Iwerddon. Mae ei chasgliad cyntaf o gerddi, Sanctuary: There Must Be Somewhere, yn gasgliad ar y cyd â phum ysgrifennwr arall o Gymru a Gogledd Iwerddon a gafodd eu gwahodd i gyfrannu at ysgrifennu cerdd ar y cyd â hi. Fel hyn, mae’r gyfrol yn ymgorffori’r agwedd groesawu ar noddfa – thema â sawl haen iddi. Cafodd ei chasgliad cyntaf o straeon byrion, A City Burning, ei gyhoeddi gan Seren yn 2020 a chyrhaeddodd y rhestr hir ar gyfer Gwobr Stori Fer Edge Hill.

Angela Graham is from Belfast who has worked as a film maker and screenwriter in Wales. Angela turned to writing full-time a few years ago and now divides her time between Wales and Northern Ireland. Her debut poetry collection Sanctuary: There Must Be Somewhere is a collaborative collection in which she invited five other writers from Wales and Northern Ireland to contribute a poem each written in collaboration with her. In this way, the book embodies the hosting aspect of sanctuary – a theme with many facets. Her debut collection of short stories A City Burning was published by Seren in 2020 and was longlisted for Edge Hill Short Story Prize.

Photo credit: Natasha Hirst

Gwyneth Lewis smiling into the camera.

Gwyneth Lewis oedd Bardd Cenedlaethol Cymru rhwng 2005-06. Hi a ysgrifennodd y geiriau dwyieithog sydd i’w gweld ar flaen adeilad trawiadol Canolfan Mileniwm Cymru. Mae’n fardd hynod lwyddiannus. Ei chasgliad diweddaraf yn Saesneg yw Sparrow Tree (Bloodaxe Books),  ac yn y Gymraeg Treiglo (Barddas). Mae hi wedi cyhoeddi dwy gyfrol ar bymtheg o farddoniaeth, llyfrau ffeithiol, ac wedi cwblhau cyfieithiad sy’n dwyn y teitl The Book of Taliesin (Penguin Classics) ar y cyd â Rowan Williams. Dyfarnwyd Gwobr Cholmondely i Gwyneth gan Gymdeithas y Beirdd yn 2010. Mae’n ysgrifennydd llawrydd, athrawes, ac wedi derbyn sawl cymrodoriaeth yn yr UDA, lle cafodd ei haddysg ym Mhrifysgol Princeton ac yn aelod o gyfadran Bread Loaf School of English yng Ngholeg Middlebury, Vermont, lle bu’n Gadeirydd Llenyddiaeth Robert Frost yn 2016.

Gwyneth Lewis was Wales’s National Poet from 2005-06. She wrote the bilingual words for the front of the iconic Wales Millennium Centre. She’s an award-winning poet. Her most recent English-language collection is Sparrow Tree (Bloodaxe Books), and also recently the Cymraeg volume, Treiglo (Barddas). She has published seventeen books of poetry, non-fiction and, with Rowan Williams, a translation of The Book of Taliesin (Penguin Classics). Gwyneth was awarded a Cholmondely Award by the Society of Authors in 2010. She’s a freelance writer and teacher and has held a number of fellowships in the US, where she’s taught at Princeton University and is a faculty member of Middlebury College’s Bread Loaf School of English in Vermont where, in 2016 she was the Robert Frost Chair of Literature. Photo credit: Edward Brown

Magwyd Dylan Moore ger Aberhonddu, Powys ac mae wedi byw yng Nghaerdydd a Valencia. Bellach, mae’n byw gyda’i deulu yng Nghasnewydd. Mae wedi cyhoeddi sawl cyfrol, y diweddaraf o’u plith yw Many Rivers To Cross (Three Impostors, 2021) a gafodd grant ymchwil gan y Global Academy of Liberal Arts. Mae Dylan Moore wedi sefydlu a chyd-sefydlu cylchgronnau megis The Raconteur ac Wales Arts Review ac mae ei waith newyddiaduraeth wedi’i gyhoeddi gan theartsdesk, Daily Telegraph, Lonely Planet, Times Educational Supplement a Vanity Fair. Mae Dylan yn teimlo’n gryf iawn dros hawliau dynol, ac wedi gweithio i gefnogi ffoaduriaid, wedi gwasanaethu ar bwyllgor gweithredol Wales PEN Cymru, a bu’n siarad ar eu rhan mewn undod â newyddiadurwyr dan fygythiad yn PEN Pregunta, Mexico City. Dylan yw prif sylwebydd diwylliant a chyfryngau Cymru, ac mae’n golygu’r agenda Gymreig ar gyfer y Sefydliad Materion Cymreig.

Dylan Moore grew up near Brecon, Powys and lived in Cardiff and Valencia. He now lives with his family in Newport. He has published several books, most recently Many Rivers to Cross (Three Impostors, 2021) the recipient of a research grant from the Global Academy of Liberal Arts. Dylan Moore has founded and co-founded magazines including The Raconteur and the Wales Arts Review and his journalism has been published by theartsdesk, Daily Telegraph, Lonely Planet, Times Educational Supplement and Vanity Fair. Dylan is passionate about human rights, and has worked to support refugees, and on the executive committee of Wales PEN Cymru, on behalf of whom he spoke in solidarity with threatened journalists at PEN Pregunta, Mexico City. Dylan is a leading commentator on the culture and media of Wales, and edits the welsh agenda for the Institute of Welsh Affairs.

Mae gan y Parchedig Aled Edwards ddiddordeb mawr mewn materion sy’n ymwneud â cheiswyr lloches a ffoaduriaid, materion hiliau a chydraddoldeb a hawliau dynol. Bu’n Gadeirydd Cyngor Ffoaduriaid Cymru (2005-06), yn aelod o Bwyllgor Cynghori Cyfle Cyfartal Cymru, ac yn Gomisiynydd Cymru i’r Comisiwn dros Gydraddoldeb rhwng Hiliau (2006-07). Mae’n Gadeirydd Alltudion ar Waith, un o sefydliadau ceiswyr lloches a ffoaduriaid mwyaf gweithredol Cymru, ac yn aelod o Bwyllgor Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Fis Mehefin 2006, dyfarnwyd Aled ag OBE am ei wasanaethau elusennol yng Nghymru.

Reverend Aled Edwards has a strong interest in issues concerning asylum seekers and refugees, race relations and equalities and human rights. He was Chair of the Welsh Refugee Council (2005-06), a member of the Equal Opportunities Wales Advisory Committee, and was Wales’ Commissioner on the Commission for Racial Equality (2006-07). He is Chair of Displaced People in Action, one of Wales’s most active asylum and refugee organisations, and is a member of the Wales Committee of the Equalities and Human Rights Commission. In June 2006, Aled received an OBE for his charitable services in Wales.

Joseff Gnagbo ydw i. Dw i’n dod o orllewin Affrica yn wreiddiol. Tiwtor Cymraeg dan hyfforddiant, ieithydd, cyn-newyddiadurwr a chanwr-cyfansoddwr ydw i. Dw i’n  byw yng Nghaerdydd ers 2018. Mae’n anrheg mawr bod ar y panel hwn.

I am Joseff Gnagbo. I come from west Africa originally. I am a trainee teacher of Welsh, a linguist, former journalist and singer-song-writer. I have lived in Cardiff since 2018. It is such a gift to be on this panel.